Ysgrifennu Newydd
Mae Sherman Cymru yn ymroddedig i ddarganfod, cefnogi a chynhyrchu gwaith newydd i`r llwyfan gan awduron o Gymru ac awduron sy`n trigo yma. Rydym ni gweithio gydag awduron newydd a phrofiadol i fagu syniadau ffres a bywiog trwy broses ddramatwrgaidd ddwys, ac ymlaen i gynhyrchiad.
Gan ddilyn esiampl rhagorol Sgript Cymru, rydymn ni ymroi i ganfod a meithrin syniadau theatraidd heriol a threiddgar, yn Gymraeg a Saesneg. Gweithiwn hefyd gydag awduron sydd yn dod i`r amlwg, pobl ifainc, ac ar lefel gymunedol, gan gynnig cefnogaeth, gweithdai a mentora.

